P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mike O'Brien, ar ôl casglu cyfanswm o 133 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Llofnodwch y ddeiseb a gofynnwch i Lywodraeth Cymru gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl a gwrando ar ein straeon. Rydym am i Lywodraeth Cymru gwrdd yn rheolaidd â gofalwyr y tu allan i sefydliadau a phwyllgorau gofalwyr. Nod y cyfarfodydd hyn fyddai rhoi llais i ofalwyr, cyfle i rannu eu pryderon ac i Lywodraeth Cymru glywed straeon go iawn gofalwyr ar lawr gwlad.

Rydym yn haeddu'r hawl i’n lleisiau gael eu clywed. Mae gofalwyr di-dâl wedi cael eu hanwybyddu’n rhy hir a hyd yn oed yn fwy felly yn ystod y pandemig. Er enghraifft, dywedodd Llywodraeth Cymru na allai ddod o hyd i unrhyw enghreifftiau o wasanaethau'n cael eu hatal yn ystod y pandemig, ond mae gofalwyr gwirioneddol ar lawr gwlad yn gwybod bod gwasanaethau wedi'u hatal ac nad ydynt wedi'u hailddechrau o hyd.

Rydym yn gofyn i Weinidogion perthnasol gwrdd â ni fel y gallwn helpu i lunio polisïau yn y dyfodol i sicrhau dyfodol gwell i ofalwyr di-dâl sy'n byw yng Nghymru.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Bro Morgannwg

·         Canol De Cymru